Judges 8

Lladd Seba a Tsalmwna, brenhinoedd Midian

1Ond yna dyma ddynion Effraim yn mynd i gwyno wrth Gideon, “Wnest ti ddim ein galw ni i helpu i ymladd yn erbyn y Midianiaid. Pam wnest ti'n diystyru ni fel yna?” Roedden nhw'n dadlau'n ffyrnig gydag e.

2Dyma Gideon yn dweud, “Dw i wedi gwneud dim o'i gymharu â chi. Mae grawnwin gwaelaf Effraim yn well na gorau fy mhobl i.
8:2 fy mhobl i Hebraeg, “Abieser”.
3Chi wnaeth Duw eu defnyddio i ddal Oreb a Seeb, dau gadfridog Midian. Dydy beth wnes i yn ddim o'i gymharu â hynny.” Pan ddwedodd hynny roedden nhw'n teimlo'n well tuag ato.

4Roedd Gideon a'i dri chant o ddynion wedi croesi'r Afon Iorddonen ac yn dal i fynd ar ôl y Midianiaid, er eu bod nhw wedi blino'n lân. 5Dyma nhw'n cyrraedd Swccoth, a dyma Gideon yn gofyn i arweinwyr y dref, “Mae'r dynion yma sydd gyda mi wedi ymlâdd. Wnewch chi roi bwyd iddyn nhw? Dŷn ni'n ceisio dal Seba a Tsalmwna, brenhinoedd Midian.”

6Ond dyma arweinwyr Swccoth yn ateb, “Pam ddylen ni roi bwyd i chi? Wnewch chi byth lwyddo i ddal Seba a Tsalmwna!”

7Ac meddai Gideon, “Iawn, os mai felly mae hi, pan fydd yr Arglwydd wedi fy helpu i'w dal nhw, bydda i'n gwneud i chi ddiodde go iawn pan ddof i yn ôl.”

8Dyma fe'n mynd ymlaen wedyn a gofyn i arweinwyr Penuel am fwyd. Ond dyma nhw'n ymateb yr un fath ag arweinwyr Swccoth. 9Felly dyma Gideon yn eu bygwth nhw hefyd, a dweud, “Pan ddof i yn ôl ar ôl trechu Midian, bydda i'n bwrw eich tŵr chi i lawr!”

10Roedd Seba a Tsalmwna wedi cyrraedd Carcor, gyda tua un deg pum mil o filwyr oedd wedi llwyddo i ddianc. (Roedd cant dau ddeg o filoedd wedi cael eu lladd!) 11Dyma Gideon a'i ddynion yn mynd ar hyd ffordd y nomadiaid sydd i'r dwyrain o Nobach a Iogbeha, ac yna ymosod ar fyddin Midian yn gwbl ddirybudd. 12Dyma fyddin Midian yn panicio. Ceisiodd Seba a Tsalmwna ddianc ond aeth Gideon ar eu holau a llwyddo i'w dal nhw.

13Pan oedd y frwydr drosodd dyma Gideon yn mynd yn ôl drwy Fwlch Cheres. 14Yno dyma fe'n dal dyn ifanc o Swccoth a dechrau gofyn cwestiynau iddo. Dyma'r dyn ifanc yn ysgrifennu enwau swyddogion ac arweinwyr y dref i gyd iddo – saith deg saith o ddynion i gyd. 15Yna dyma Gideon yn mynd at arweinwyr Swccoth, a dweud, “Edrychwch pwy sydd gen i. Seba a Tsalmwna! Roeddech chi'n gwawdio a dweud, ‘Wnewch chi byth lwyddo i ddal Seba a Tsalmwna. Pam ddylen ni roi bwyd i dy filwyr blinedig di?’”

16Felly dyma fe'n dal arweinwyr y dref, a'u chwipio nhw'n filain i ddysgu gwers iddyn nhw.
8:16 a'u chwipio … iddyn nhw Hebraeg, “a chymryd drain a mieri'r anialwch, a chwipio arweinwyr Swccoth gyda nhw.”
17Aeth i Penuel wedyn, bwrw eu tŵr i lawr, a dienyddio arweinwyr
8:17 arweinwyr neu dynion.
y dref honno i gyd.

18Yna gofynnodd i Seba a Tsalmwna, “Dwedwch wrtho i am y dynion wnaethoch chi eu lladd yn Tabor.”

A dyma nhw'n ateb, “Dynion digon tebyg i ti. Roedden nhw'n edrych fel petaen nhw'n feibion i frenhinoedd.”

19“Fy mrodyr i oedden nhw,” meddai Gideon. “Wir i chi! Petaech chi wedi gadael iddyn nhw fyw byddwn i'n gadael i chi fyw.”

20Yna dyma Gideon yn dweud wrth Jether, ei fab hynaf, “Tyrd, lladd nhw!” Ond roedd Jether yn rhy ofnus i dynnu ei gleddyf – bachgen ifanc oedd e.

21A dyma Seba a Tsalmwna yn dweud wrth Gideon, “Lladd ni dy hun, os wyt ti'n ddigon o ddyn!” A dyma Gideon yn lladd y ddau ohonyn nhw. Yna dyma fe'n cymryd yr addurniadau brenhinol siap cilgant oedd am yddfau eu camelod.

Gideon yn gwneud delw

22Dyma ddynion Israel yn gofyn i Gideon fod yn frenin arnyn nhw. “Bydd yn frenin arnon ni – ti, a dy fab a dy ŵyr ar dy ôl. Rwyt ti wedi'n hachub ni o afael Midian.”

23Ond dyma Gideon yn dweud wrthyn nhw, “Na, fydda i ddim yn frenin arnoch chi, na'm mab i chwaith. Yr Arglwydd ydy'ch brenin chi.”

24Ond yna, meddai wrthyn nhw, “Gallwch wneud un peth i mi. Dw i eisiau i bob un ohonoch chi roi clustdlws i mi o'i siâr o'r pethau gymeroch chi oddi ar y Midianiaid.” (Ismaeliaid oedden nhw, ac roedden nhw i gyd yn gwisgo clustdlysau aur.)

25“Wrth gwrs,” medden nhw. A dyma nhw'n rhoi clogyn ar lawr, a dyma'r dynion i gyd yn taflu'r clustdlysau aur ar y clogyn. 26Roedd y clustdlysau i gyd yn pwyso bron ddau ddeg cilogram, heb sôn am yr addurniadau siâp cilgant, y tlysau crog, y gwisgoedd brenhinol a'r cadwyni oedd am yddfau'r camelod. 27A dyma Gideon yn gwneud delw gydag effod arno a'i osod yn Offra, y dref lle cafodd ei fagu. Ond dyma bobl Israel yn dechrau ei addoli ac roedd hyd yn oed Gideon a'i deulu wedi syrthio i'r trap!

Marwolaeth Gideon

28Dyna sut cafodd y Midianiaid eu trechu'n llwyr gan bobl Israel, a wnaethon nhw erioed godi i fod yn rym ar ôl hynny. Roedd heddwch yn y wlad am bedwar deg mlynedd, tra roedd Gideon yn dal yn fyw.

29Aeth Jerwb-baal (sef Gideon), mab Joas, yn ôl adre i fyw. 30Cafodd saith deg o feibion – roedd ganddo lot fawr o wragedd. 31Cafodd fab arall drwy bartner
8:31 bartner Mae'r gair Hebraeg yn air am feistres neu bartner cyfreithlon oedd ddim yn wraig i ddyn yn ystyr lawnaf y gair.
iddo, oedd yn byw yn Sichem. Galwodd e yn Abimelech.
8:31 Abimelech sy'n golygu, “mae dad yn frenin”.

32Roedd Gideon yn hen iawn pan fuodd e farw. Cafodd ei gladdu ym medd ei dad Joas, yn Offra yr Abiesriaid. 33Ond ar ôl iddo farw dyma pobl Israel yn puteinio, drwy addoli delwau o Baal. Dyma nhw'n gwneud Baal-berith
8:33 Baal-berith sef, "Baal yr Ymrwymiad".
yn Dduw iddyn nhw eu hunain.
34Wnaeth pobl Israel ddim aros yn ffyddlon i'r Arglwydd eu Duw, oedd wedi eu hachub nhw oddi wrth y gelynion oedd yn byw o'u cwmpas. 35A fuon nhw ddim yn garedig iawn at deulu Gideon
8:35 Gideon Hebraeg, “Jerwb-baal”, ei lys-enw (gw. 6:32).
chwaith, er gwaetha popeth roedd e wedi ei wneud dros Israel.

Copyright information for CYM